Romans 10:8-10

Ond beth mae'n ei ddweud? “Y mae'r gair yn agos atat, yn dy enau ac yn dy galon.” A dyma'r gair yr ydym ni yn ei bregethu, gair ffydd, sef: “Os cyffesi Iesu yn Arglwydd â'th enau, a chredu yn dy galon fod Duw wedi ei gyfodi ef oddi wrth y meirw, cei dy achub.” Oherwydd credu â'r galon sy'n esgor ar gyfiawnder, a chyffesu â'r genau sy'n esgor ar iachawdwriaeth.
Rhufeiniaid 10:8-10