Romans 10:13-21

Oherwydd, yng ngeiriau'r Ysgrythur, “bydd pob un sy'n galw ar enw yr Arglwydd yn cael ei achub, pwy bynnag yw.” Ond sut y mae pobl i alw ar rywun nad ydynt wedi credu ynddo? Sut y maent i gredu yn rhywun nad ydynt wedi ei glywed? Sut y maent i glywed, heb fod rhywun yn pregethu? Sut y maent i bregethu, heb gael eu hanfon? Fel y mae'r Ysgrythur yn dweud: “Mor weddaidd yw traed y rhai sy'n cyhoeddi newyddion da.” Eto nid pawb a ufuddhaodd i'r newydd da. Oherwydd y mae Eseia'n dweud, “Arglwydd, pwy a gredodd yr hyn a glywsant gennym?” Felly, o'r hyn a glywir y daw ffydd, a daw'r clywed trwy air Crist. Ond y mae'n rhaid gofyn, “A oedd dichon iddynt fethu clywed?” Nac oedd, yn wir, oherwydd: “Aeth eu lleferydd allan i'r holl ddaear, a'u geiriau hyd eithafoedd byd.” Ond i ofyn peth arall, “A oedd dichon i Israel fethu deall?” Ceir yr ateb yn gyntaf gan Moses: “Fe'ch gwnaf chwi'n eiddigeddus wrth genedl nad yw'n genedl, a'ch gwneud yn ddig wrth genedl ddiddeall.” Ac yna, y mae Eseia'n beiddio dweud: “Cafwyd fi gan rai nad oeddent yn fy ngheisio; gwelwyd fi gan rai nad oeddent yn holi amdanaf.” Ond am Israel y mae'n dweud: “Ar hyd y dydd bûm yn estyn fy nwylo at bobl anufudd a gwrthnysig.”
Rhufeiniaid 10:13-21