Wele, y mae'n dyfod gyda'r cymylau,
a bydd pob llygad yn ei weld,
ie, a'r rhai a'i trywanodd,
a bydd holl lwythau'r ddaear yn galaru o'i blegid ef.
Boed felly! Amen.
“Myfi yw Alffa ac Omega,” medd yr Arglwydd Dduw, yr hwn sydd a'r hwn oedd a'r hwn sydd i ddod, yr Hollalluog.