Psalms 9:1-10

Diolchaf i ti, ARGLWYDD, â'm holl galon, adroddaf am dy ryfeddodau. Llawenhaf a gorfoleddaf ynot ti, canaf fawl i'th enw, y Goruchaf. Pan dry fy ngelynion yn eu holau, baglant a threngi o'th flaen. Gwnaethost yn deg â mi yn fy achos, ac eistedd ar dy orsedd yn farnwr cyfiawn. Ceryddaist y cenhedloedd a difetha'r drygionus, a dileaist eu henw am byth. Darfu am y gelyn mewn adfeilion bythol; yr wyt wedi chwalu eu dinasoedd, a diflannodd y cof amdanynt. Ond y mae'r ARGLWYDD wedi ei orseddu am byth, ac wedi paratoi ei orsedd i farn. Fe farna'r byd mewn cyfiawnder, a gwrando achos y bobloedd yn deg. Bydded yr ARGLWYDD yn amddiffynfa i'r gorthrymedig, yn amddiffynfa yn amser cyfyngder, fel y bydd i'r rhai sy'n cydnabod dy enw ymddiried ynot; oherwydd ni adewaist, ARGLWYDD, y rhai sy'n dy geisio.
Y Salmau 9:1-10