Psaumes 85:1-7

O Arglwydd, buost drugarog wrth dy dir; adferaist lwyddiant i Jacob. Maddeuaist gamwedd dy bobl, a dileu eu holl bechod. Sela Tynnaist dy holl ddigofaint yn ôl, a throi oddi wrth dy lid mawr. Adfer ni eto, O Dduw ein hiachawdwriaeth, a rho heibio dy ddicter tuag atom. A fyddi'n digio wrthym am byth, ac yn dal dig atom am genedlaethau? Oni fyddi'n ein hadfywio eto, er mwyn i'th bobl lawenhau ynot? Dangos i ni dy ffyddlondeb, O ARGLWYDD, a rho dy waredigaeth inni.
Y Salmau 85:1-7