Psalms 84:10-12

Gwell yw diwrnod yn dy gynteddau di na mil gartref; gwell sefyll wrth y drws yn nhŷ fy Nuw na thrigo ym mhebyll drygioni. Oherwydd haul a tharian yw'r ARGLWYDD Dduw; rhydd ras ac anrhydedd. Nid atal yr ARGLWYDD unrhyw ddaioni oddi wrth y rhai sy'n rhodio'n gywir. O ARGLWYDD y Lluoedd, gwyn ei fyd y sawl sy'n ymddiried ynot.
Y Salmau 84:10-12