Psalm 77:11-20

“Galwaf i gof weithredoedd yr ARGLWYDD, a chofio am dy ryfeddodau gynt. Meddyliaf am dy holl waith, a myfyriaf am dy weithredoedd. O Dduw, sanctaidd yw dy ffordd; pa dduw sydd fawr fel ein Duw ni? Ti yw'r Duw sy'n gwneud pethau rhyfeddol; dangosaist dy rym ymhlith y bobloedd. Â'th fraich gwaredaist dy bobl, disgynyddion Jacob a Joseff. Sela “Gwelodd y dyfroedd di, O Dduw, gwelodd y dyfroedd di ac arswydo; yn wir, yr oedd y dyfnder yn crynu. Tywalltodd y cymylau ddŵr, ac yr oedd y ffurfafen yn taranu; fflachiodd dy saethau ar bob llaw. Yr oedd sŵn dy daranau yn y corwynt, goleuodd dy fellt y byd; ysgydwodd y ddaear a chrynu. Aeth dy ffordd drwy'r môr, a'th lwybr trwy ddyfroedd nerthol; ond ni welwyd ôl dy gamau. Arweiniaist dy bobl fel praidd, trwy law Moses ac Aaron.”
Y Salmau 77:11-20