Psalm 77:1-10

Gwaeddais yn uchel ar Dduw, yn uchel ar Dduw, a chlywodd fi. Yn nydd fy nghyfyngder ceisiais yr Arglwydd, ac yn y nos estyn fy nwylo'n ddiflino; nid oedd cysuro ar fy enaid. Pan feddyliaf am Dduw, yr wyf yn cwyno; pan fyfyriaf, fe balla f'ysbryd. Sela Cedwaist fy llygaid rhag cau; fe'm syfrdanwyd, ac ni allaf siarad. Af yn ôl i'r dyddiau gynt a chofio am y blynyddoedd a fu; meddyliaf ynof fy hun yn y nos, myfyriaf, a'm holi fy hunan, “A wrthyd yr Arglwydd am byth, a pheidio â gwneud ffafr mwyach? A yw ei ffyddlondeb wedi darfod yn llwyr, a'i addewid wedi ei hatal am genedlaethau? A yw Duw wedi anghofio trugarhau? A yw yn ei lid wedi cloi ei dosturi?” Sela Yna dywedais, “Hyn yw fy ngofid: A yw deheulaw'r Goruchaf wedi pallu?”
Y Salmau 77:1-10