Psalms 68:4-6

Canwch i Dduw, molwch ei enw, paratowch ffordd i'r un sy'n marchogaeth trwy'r anialdir; yr ARGLWYDD yw ei enw, gorfoleddwch o'i flaen. Tad yr amddifaid ac amddiffynnydd y gweddwon yw Duw yn ei drigfan sanctaidd. Mae Duw yn gosod yr unig mewn cartref, ac yn arwain allan garcharorion mewn llawenydd; ond y mae'r gwrthryfelwyr yn byw mewn diffeithwch.
Y Salmau 68:4-6