Psalm 68:19-31

Bendigedig yw'r Arglwydd, sy'n ein cario ddydd ar ôl dydd; Duw yw ein hiachawdwriaeth. Sela Duw sy'n gwaredu yw ein Duw ni; gan yr ARGLWYDD Dduw y mae dihangfa rhag marwolaeth. Yn wir, bydd Duw'n dryllio pennau ei elynion, pob copa gwalltog, pob un sy'n rhodio mewn euogrwydd. Dywedodd yr Arglwydd, “Dof â hwy'n ôl o Basan, dof â hwy'n ôl o waelodion y môr, er mwyn iti drochi dy droed mewn gwaed, ac i dafodau dy gŵn gael eu cyfran o'r gelynion.” Gwelir dy orymdeithiau, O Dduw, gorymdeithiau fy Nuw, fy Mrenin, i'r cysegr— y cantorion ar y blaen a'r offerynwyr yn dilyn, a rhyngddynt forynion yn canu tympanau. Yn y gynulleidfa y maent yn bendithio Duw, a'r ARGLWYDD yng nghynulliad Israel. Yno y mae Benjamin fychan yn eu harwain, a thyrfa tywysogion Jwda, tywysogion Sabulon a thywysogion Nafftali. O Dduw, dangos dy rym, y grym, O Dduw, y buost yn ei weithredu drosom. O achos dy deml yn Jerwsalem daw brenhinoedd ag anrhegion i ti. Cerydda anifeiliaid gwyllt y corsydd, y gyr o deirw gyda'u lloi o bobl; sathra i lawr y rhai sy'n dyheu am arian, gwasgara'r bobl sy'n ymhyfrydu mewn rhyfel. Bydded iddynt ddod â phres o'r Aifft; brysied Ethiopia i estyn ei dwylo at Dduw.
Y Salmau 68:19-31