Psalm 63:3-8

Y mae dy ffyddlondeb yn well na bywyd; am hynny bydd fy ngwefusau'n dy foliannu. Fel hyn y byddaf yn dy fendithio trwy fy oes, ac yn codi fy nwylo mewn gweddi yn dy enw. Caf fy nigoni, fel pe ar fêr a braster, a moliannaf di â gwefusau llawen. Pan gofiaf di ar fy ngwely, a myfyrio amdanat yng ngwyliadwriaethau'r nos— fel y buost yn gymorth imi, ac fel yr arhosais yng nghysgod dy adenydd— bydd fy enaid yn glynu wrthyt; a bydd dy ddeheulaw yn fy nghynnal.
Y Salmau 63:3-8