Psalm 54:1-7

O Dduw, gwareda fi trwy dy enw, a thrwy dy nerth cyfiawnha fi. O Dduw, gwrando fy ngweddi, rho glust i eiriau fy ngenau. Oherwydd cododd gwŷr trahaus yn fy erbyn, ac y mae gwŷr didostur yn ceisio fy mywyd; nid ydynt yn meddwl am Dduw. Sela Wele, Duw yw fy nghynorthwywr, fy Arglwydd yw cynhaliwr fy mywyd. Bydded i ddrygioni ddychwelyd ar fy ngelynion! Trwy dy wirionedd diddyma hwy. Aberthaf yn ewyllysgar i ti; clodforaf dy enw, O ARGLWYDD, oherwydd da yw; oherwydd gwaredodd fi o bob cyfyngder, a gwneud imi orfoleddu dros fy ngelynion.
Y Salmau 54:1-7