Psaumes 51:1-5

Bydd drugarog wrthyf, O Dduw, yn ôl dy ffyddlondeb; yn ôl dy fawr dosturi dilea fy nhroseddau; golch fi'n lân o'm drygioni, a glanha fi o'm pechod. Oherwydd gwn am fy nhroseddau, ac y mae fy mhechod yn wastad gyda mi. Yn dy erbyn di, ti yn unig, y pechais a gwneud yr hyn a ystyri'n ddrwg, fel dy fod yn gyfiawn yn dy ddedfryd, ac yn gywir yn dy farn. Wele, mewn drygioni y'm ganwyd, ac mewn pechod y beichiogodd fy mam.
Y Salmau 51:1-5