Psalms 47:1-6

Curwch ddwylo, yr holl bobloedd; rhowch wrogaeth i Dduw â chaneuon gorfoledd. Oherwydd y mae'r ARGLWYDD, y Goruchaf, yn ofnadwy, yn frenin mawr dros yr holl ddaear. Fe ddarostwng bobloedd odanom, a chenhedloedd o dan ein traed. Dewisodd ein hetifeddiaeth i ni, balchder Jacob, yr hwn a garodd. Sela Esgynnodd Duw gyda bloedd, yr ARGLWYDD gyda sain utgorn. Canwch fawl i Dduw, canwch fawl; canwch fawl i'n brenin, canwch fawl.
Y Salmau 47:1-6