Psalm 42:1-4

Fel y dyhea ewig am ddyfroedd rhedegog, felly y dyhea fy enaid amdanat ti, O Dduw. Y mae fy enaid yn sychedu am Dduw, am y Duw byw; pa bryd y dof ac ymddangos ger ei fron? Bu fy nagrau'n fwyd imi ddydd a nos, pan ofynnent imi drwy'r dydd, “Ple mae dy Dduw?” Tywalltaf fy enaid mewn gofid wrth gofio hyn— fel yr awn gyda thyrfa'r mawrion i dŷ Dduw yng nghanol banllefau a moliant, torf yn cadw gŵyl.
Y Salmau 42:1-4