Psalm 40:1-3

Bûm yn disgwyl a disgwyl wrth yr ARGLWYDD, ac yna plygodd ataf a gwrando fy nghri. Cododd fi i fyny o'r pwll lleidiog, allan o'r mwd a'r baw; gosododd fy nhraed ar graig, a gwneud fy nghamau'n ddiogel. Rhoddodd yn fy ngenau gân newydd, cân o foliant i'n Duw; bydd llawer, pan welant hyn, yn ofni ac yn ymddiried yn yr ARGLWYDD.
Y Salmau 40:1-3