Psalm 37:3-19

Ymddiried yn yr ARGLWYDD a gwna ddaioni, iti gael byw yn y wlad mewn cymdeithas ddiogel. Ymhyfryda yn yr ARGLWYDD, a rhydd iti ddeisyfiad dy galon. Rho dy ffyrdd i'r ARGLWYDD; ymddiried ynddo, ac fe weithreda. Fe wna i'th gywirdeb ddisgleirio fel goleuni a'th uniondeb fel haul canol dydd. Disgwyl yn dawel am yr ARGLWYDD, aros yn amyneddgar amdano; paid â bod yn ddig wrth yr un sy'n llwyddo, y gŵr sy'n gwneud cynllwynion. Paid â digio; rho'r gorau i lid; paid â bod yn ddig, ni ddaw ond drwg o hynny. Oherwydd dinistrir y rhai drwg, ond bydd y rhai sy'n gobeithio yn yr ARGLWYDD yn etifeddu'r tir. Ymhen ychydig eto, ni fydd y drygionus; er iti edrych yn ddyfal am ei le, ni fydd ar gael. Ond bydd y gostyngedig yn meddiannu'r tir ac yn mwynhau heddwch llawn. Y mae'r drygionus yn cynllwyn yn erbyn y cyfiawn, ac yn ysgyrnygu ei ddannedd arno; ond y mae'r Arglwydd yn chwerthin am ei ben, oherwydd gŵyr fod ei amser yn dyfod. Y mae'r drygionus yn chwifio cleddyf ac yn plygu eu bwa, i ddarostwng y tlawd a'r anghenus, ac i ladd yr union ei gerddediad; ond fe drywana eu cleddyf i'w calon eu hunain, a thorrir eu bwâu. Gwell yw'r ychydig sydd gan y cyfiawn na chyfoeth mawr y drygionus; oherwydd torrir nerth y drygionus, ond bydd yr ARGLWYDD yn cynnal y cyfiawn. Y mae'r ARGLWYDD yn gwylio dros ddyddiau'r difeius, ac fe bery eu hetifeddiaeth am byth. Ni ddaw cywilydd arnynt mewn cyfnod drwg, a bydd ganddynt ddigon mewn dyddiau o newyn.
Y Salmau 37:3-19