Psalm 27:1-4

Yr ARGLWYDD yw fy ngoleuni a'm gwaredigaeth, rhag pwy yr ofnaf? Yr ARGLWYDD yw cadernid fy mywyd, rhag pwy y dychrynaf? Pan fydd rhai drwg yn cau amdanaf i'm hysu i'r byw, hwy, fy ngwrthwynebwyr a'm gelynion, fydd yn baglu ac yn syrthio. Pe bai byddin yn gwersyllu i'm herbyn, nid ofnai fy nghalon; pe dôi rhyfel ar fy ngwarthaf, eto, fe fyddwn yn hyderus. Un peth a ofynnais gan yr ARGLWYDD, dyma'r wyf yn ei geisio: cael byw yn nhŷ'r ARGLWYDD holl ddyddiau fy mywyd, i edrych ar hawddgarwch yr ARGLWYDD ac i ymofyn yn ei deml.
Y Salmau 27:1-4