Psalm 23:1-6

Yr ARGLWYDD yw fy mugail, ni bydd eisiau arnaf. Gwna imi orwedd mewn porfeydd breision, a thywys fi gerllaw dyfroedd tawel, ac y mae ef yn fy adfywio. Fe'm harwain ar hyd llwybrau cyfiawnder er mwyn ei enw. Er imi gerdded trwy ddyffryn tywyll du, nid ofnaf unrhyw niwed, oherwydd yr wyt ti gyda mi, a'th wialen a'th ffon yn fy nghysuro. Yr wyt yn arlwyo bwrdd o'm blaen yng ngŵydd fy ngelynion; yr wyt yn eneinio fy mhen ag olew; y mae fy nghwpan yn llawn. Yn sicr, bydd daioni a thrugaredd yn fy nilyn bob dydd o'm bywyd, a byddaf yn byw yn nhŷ'r ARGLWYDD weddill fy nyddiau.
Y Salmau 23:1-6