Psalms 22:1-15

Fy Nuw, fy Nuw, pam yr wyt wedi fy ngadael, ac yn cadw draw rhag fy ngwaredu ac oddi wrth eiriau fy ngriddfan? O fy Nuw, gwaeddaf arnat liw dydd, ond nid wyt yn ateb, a'r nos, ond ni chaf lonyddwch. Eto, yr wyt ti, y Sanctaidd, wedi dy orseddu yn foliant i Israel. Ynot ti yr oedd ein hynafiaid yn ymddiried, yn ymddiried a thithau'n eu gwaredu. Arnat ti yr oeddent yn gweiddi ac achubwyd hwy, ynot ti yr oeddent yn ymddiried ac ni chywilyddiwyd hwy. Pryfyn wyf fi ac nid dyn, gwawd a dirmyg i bobl. Y mae pawb sy'n fy ngweld yn fy ngwatwar, yn gwneud ystumiau arnaf ac yn ysgwyd pen: “Rhoes ei achos i'r ARGLWYDD, bydded iddo ef ei achub! Bydded iddo ef ei waredu, oherwydd y mae'n ei hoffi!” Ond ti a'm tynnodd allan o'r groth, a'm rhoi ar fronnau fy mam; arnat ti y bwriwyd fi ar fy ngenedigaeth, ac o groth fy mam ti yw fy Nuw. Paid â phellhau oddi wrthyf, oherwydd y mae fy argyfwng yn agos ac nid oes neb i'm cynorthwyo. Y mae gyr o deirw o'm cwmpas, rhai cryfion o Basan yn cau amdanaf; y maent yn agor eu safn amdanaf fel llew yn rheibio a rhuo. Yr wyf wedi fy nihysbyddu fel dŵr, a'm holl esgyrn yn ymddatod; y mae fy nghalon fel cwyr, ac yn toddi o'm mewn; y mae fy ngheg yn sych fel cragen a'm tafod yn glynu wrth daflod fy ngenau; yr wyt wedi fy mwrw i lwch marwolaeth.
Y Salmau 22:1-15