Psalms 22:1-4

Fy Nuw, fy Nuw, pam yr wyt wedi fy ngadael, ac yn cadw draw rhag fy ngwaredu ac oddi wrth eiriau fy ngriddfan? O fy Nuw, gwaeddaf arnat liw dydd, ond nid wyt yn ateb, a'r nos, ond ni chaf lonyddwch. Eto, yr wyt ti, y Sanctaidd, wedi dy orseddu yn foliant i Israel. Ynot ti yr oedd ein hynafiaid yn ymddiried, yn ymddiried a thithau'n eu gwaredu.
Y Salmau 22:1-4