Psalms 145:17-21

Y mae'r ARGLWYDD yn gyfiawn yn ei holl ffyrdd ac yn ffyddlon yn ei holl weithredoedd. Y mae'r ARGLWYDD yn agos at bawb sy'n galw arno, at bawb sy'n galw arno mewn gwirionedd. Gwna ddymuniad y rhai sy'n ei ofni; gwrendy ar eu cri, a gwareda hwy. Gofala'r ARGLWYDD am bawb sy'n ei garu, ond y mae'n distrywio'r holl rai drygionus. Llefara fy ngenau foliant yr ARGLWYDD, a bydd pob creadur yn bendithio'i enw sanctaidd byth bythoedd.
Y Salmau 145:17-21