Psalm 133:1-3

Mor dda ac mor ddymunol yw i bobl fyw'n gytûn. Y mae fel olew gwerthfawr ar y pen, yn llifo i lawr dros y farf, dros farf Aaron, yn llifo i lawr dros goler ei wisgoedd. Y mae fel gwlith Hermon yn disgyn i lawr ar fryniau Seion. Oherwydd yno y gorchmynnodd yr ARGLWYDD ei fendith, bywyd hyd byth.
Y Salmau 133:1-3