Psalm 127:1-3

Os nad yw'r ARGLWYDD yn adeiladu'r tŷ, y mae ei adeiladwyr yn gweithio'n ofer. Os nad yw'r ARGLWYDD yn gwylio'r ddinas, y mae'r gwylwyr yn effro'n ofer. Yn ofer y codwch yn fore, a mynd yn hwyr i orffwyso, a llafurio am y bwyd a fwytewch; oherwydd mae ef yn rhoi i'w anwylyd pan yw'n cysgu. Wele, etifeddiaeth oddi wrth yr ARGLWYDD yw meibion, a gwobr yw ffrwyth y groth.
Y Salmau 127:1-3