Psalm 122:1-9

Yr oeddwn yn llawen pan ddywedasant wrthyf, “Gadewch inni fynd i dŷ'r ARGLWYDD.” Y mae ein traed bellach yn sefyll o fewn dy byrth, O Jerwsalem. Adeiladwyd Jerwsalem yn ddinas lle'r unir y bobl â'i gilydd. Yno yr esgyn y llwythau, llwythau'r ARGLWYDD, fel y gorchmynnwyd i Israel, i roi diolch i enw'r ARGLWYDD. Yno y gosodwyd gorseddfeinciau barn, gorseddfeinciau tŷ Dafydd. Gweddïwch am heddwch i Jerwsalem, “Bydded llwyddiant i'r rhai sy'n dy garu; bydded heddwch o fewn dy furiau, a diogelwch o fewn dy geyrydd.” Er mwyn fy nghydnabod a'm cyfeillion, dywedaf, “Bydded heddwch i ti.” Er mwyn tŷ yr ARGLWYDD ein Duw, ceisiaf ddaioni i ti.
Y Salmau 122:1-9