Psalm 111:2-10

Mawr yw gweithredoedd yr ARGLWYDD, fe'u harchwilir gan bawb sy'n ymhyfrydu ynddynt. Llawn anrhydedd a mawredd yw ei waith, a saif ei gyfiawnder am byth. Gwnaeth inni gofio ei ryfeddodau; graslon a thrugarog yw'r ARGLWYDD. Mae'n rhoi bwyd i'r rhai sy'n ei ofni, ac yn cofio ei gyfamod am byth. Dangosodd i'w bobl rym ei weithredoedd trwy roi iddynt etifeddiaeth y cenhedloedd. Y mae gwaith ei ddwylo yn gywir a chyfiawn, a'i holl orchmynion yn ddibynadwy; y maent wedi eu sefydlu hyd byth, ac wedi eu llunio o wirionedd ac uniondeb. Rhoes waredigaeth i'w bobl, a gorchymyn ei gyfamod dros byth. Sanctaidd ac ofnadwy yw ei enw. Dechrau doethineb yw ofn yr ARGLWYDD; y mae deall da gan bawb sy'n ufudd. Y mae ei foliant yn para byth.
Y Salmau 111:2-10