Psalms 105:1-4

Diolchwch i'r ARGLWYDD. Galwch ar ei enw, gwnewch yn hysbys ei weithredoedd ymysg y bobloedd. Canwch iddo, moliannwch ef, dywedwch am ei holl ryfeddodau. Gorfoleddwch yn ei enw sanctaidd; llawenhaed calon y rhai sy'n ceisio'r ARGLWYDD. Ceisiwch yr ARGLWYDD a'i nerth, ceisiwch ei wyneb bob amser.
Y Salmau 105:1-4