Psalms 104:24-34

Mor niferus yw dy weithredoedd, O ARGLWYDD! Gwnaethost y cyfan mewn doethineb; y mae'r ddaear yn llawn o'th greaduriaid. Dyma'r môr mawr a llydan, gydag ymlusgiaid dirifedi a chreaduriaid bach a mawr. Arno y mae'r llongau yn tramwyo, a Lefiathan, a greaist i chwarae ynddo. Y mae'r cyfan ohonynt yn dibynnu arnat ti i roi iddynt eu bwyd yn ei bryd. Pan roddi iddynt, y maent yn ei gasglu ynghyd; pan agori dy law, cânt eu diwallu'n llwyr. Ond pan guddi dy wyneb, fe'u drysir; pan gymeri eu hanadl, fe ddarfyddant, a dychwelyd i'r llwch. Pan anfoni dy anadl, cânt eu creu, ac yr wyt yn adnewyddu wyneb y ddaear. Bydded gogoniant yr ARGLWYDD dros byth, a bydded iddo lawenhau yn ei weithredoedd. Pan yw'n edrych ar y ddaear, y mae'n crynu; pan yw'n cyffwrdd â'r mynyddoedd, y maent yn mygu. Canaf i'r ARGLWYDD tra byddaf byw, rhof foliant i Dduw tra byddaf. Bydded fy myfyrdod yn gymeradwy ganddo; yr wyf yn llawenhau yn yr ARGLWYDD.
Y Salmau 104:24-34