Psalm 103:8-13

Trugarog a graslon yw'r ARGLWYDD, araf i ddigio a llawn ffyddlondeb. Nid yw'n ceryddu'n ddiddiwedd, nac yn meithrin ei ddicter am byth. Ni wnaeth â ni yn ôl ein pechodau, ac ni thalodd i ni yn ôl ein camweddau. Oherwydd fel y mae'r nefoedd uwchben y ddaear, y mae ei gariad ef dros y rhai sy'n ei ofni; cyn belled ag y mae'r dwyrain o'r gorllewin y pellhaodd ein pechodau oddi wrthym. Fel y mae tad yn tosturio wrth ei blant, felly y tosturia'r ARGLWYDD wrth y rhai sy'n ei ofni.
Y Salmau 103:8-13