Psalms 103:1-5

Fy enaid, bendithia'r ARGLWYDD, a'r cyfan sydd ynof ei enw sanctaidd. Fy enaid, bendithia'r ARGLWYDD, a phaid ag anghofio'i holl ddoniau: ef sy'n maddau fy holl gamweddau, yn iacháu fy holl afiechyd; ef sy'n gwaredu fy mywyd o'r pwll, ac yn fy nghoroni â chariad a thrugaredd; ef sy'n fy nigoni â daioni dros fy holl ddyddiau i adnewyddu fy ieuenctid fel eryr.
Y Salmau 103:1-5