Psalm 100:1-5

Bloeddiwch mewn gorfoledd i'r ARGLWYDD, yr holl ddaear. Addolwch yr ARGLWYDD mewn llawenydd, dewch o'i flaen â chân. Gwybyddwch mai'r ARGLWYDD sydd Dduw; ef a'n gwnaeth, a'i eiddo ef ydym, ei bobl a defaid ei borfa. Dewch i mewn i'w byrth â diolch, ac i'w gynteddau â mawl. Diolchwch iddo, bendithiwch ei enw. Oherwydd da yw'r ARGLWYDD; y mae ei gariad hyd byth, a'i ffyddlondeb hyd genhedlaeth a chenhedlaeth.
Y Salmau 100:1-5