Proverbs 9:10-18

Ofn yr ARGLWYDD yw dechrau doethineb, ac adnabod y Sanctaidd yw deall. Oherwydd trwof fi y cynydda dy ddyddiau, ac yr ychwanegir blynyddoedd at dy fywyd. Os wyt yn ddoeth, byddi ar dy elw; ond os wyt yn gwawdio, ti dy hun fydd yn dioddef. Y mae gwraig ffôl yn benchwiban, yn ddiddeall, heb wybod dim. Y mae'n eistedd wrth ddrws ei thŷ, ar fainc yn uchelfannau'r ddinas, yn galw ar y rhai sy'n mynd heibio ac yn dilyn eu gorchwylion eu hunain: “Dewch yma, bob un sy'n wirion.” Y mae'n dweud wrth y rhai disynnwyr, “Y mae dŵr lladrad yn felys, a bara wedi ei ddwyn yn flasus.” Ond ni wyddant hwy mai meirwon yw'r rhai sydd yno, ac mai yn nyfnder Sheol y mae ei gwahoddedigion.
Diarhebion 9:10-18