Proverbs 4:1-9

Gwrandewch, blant, ar gyfarwyddyd tad, ac ystyriwch i chwi ddysgu deall. Oherwydd yr wyf yn rhoi i chwi hyfforddiant da; peidiwch â gwrthod fy nysgeidiaeth. Bûm innau hefyd yn fab i'm tad, yn annwyl, ac yn unig blentyn fy mam. Dysgodd yntau fi, a dweud wrthyf, “Gosod dy feddwl ar fy ngeiriau; cadw fy ngorchmynion iti gael byw. Paid ag anghofio na chilio oddi wrth fy ngeiriau. Cais ddoethineb, cais ddeall; paid â'i gadael, a bydd hithau'n dy gadw; câr hi, a bydd yn d'amddiffyn. Doethineb yw'r pennaf peth; cais ddoethineb; â'r cyfan sydd gennyt, cais ddeall. Meddwl yn uchel ohoni, ac fe'th ddyrchefir ganddi; fe'th anrhydedda, os cofleidi hi. Gesyd dorch brydferth ar dy ben, a rhoi coron anrhydedd iti.”
Diarhebion 4:1-9