Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Proverbs 31:10-31

Diarhebion 31:10-31 - Pwy a all ddod o hyd i wraig fedrus?
Y mae hi'n fwy gwerthfawr na gemau.
Y mae calon ei gŵr yn ymddiried ynddi,
ac ni fydd pall ar ei henillion.
Y mae'n gwneud daioni iddo yn hytrach na cholled,
a hynny ar hyd ei hoes.
Y mae'n ceisio gwlân a llin,
ac yn cael pleser o weithio â'i dwylo.
Y mae, fel llongau masnachwr,
yn dwyn ei hymborth o bell.
Y mae'n codi cyn iddi ddyddio,
yn darparu bwyd i'w thylwyth,
ac yn trefnu gorchwylion ei morynion.
Ar ôl ystyried yn fanwl, y mae'n prynu maes,
ac yn plannu gwinllan â'i henillion.
Y mae'n gwregysu ei llwynau â nerth,
ac yn dangos mor gryf yw ei breichiau.
Y mae'n sicrhau bod ei busnes yn broffidiol,
ac ni fydd ei lamp yn diffodd trwy'r nos.
Y mae'n gosod ei llaw ar y cogail,
a'i dwylo'n gafael yn y werthyd.
Y mae'n estyn ei llaw i'r anghenus,
a'i dwylo i'r tlawd.
Nid yw'n pryderu am ei thylwyth pan ddaw eira,
oherwydd byddant i gyd wedi eu dilladu'n glyd.
Y mae'n gwneud cwrlidau iddi ei hun,
ac y mae ei gwisg o liain main a phorffor.
Y mae ei gŵr yn adnabyddus yn y pyrth,
pan yw'n eistedd gyda henuriaid yr ardal.
Y mae'n gwneud gwisgoedd o liain ac yn eu gwerthu,
ac yn darparu gwregysau i'r masnachwr.
Y mae wedi ei gwisgo â nerth ac anrhydedd,
ac yn wynebu'r dyfodol dan chwerthin.
Y mae'n siarad yn ddoeth,
a cheir cyfarwyddyd caredig ar ei thafod.
Y mae'n cadw golwg ar yr hyn sy'n digwydd i'w theulu,
ac nid yw'n bwyta bara segurdod.
Y mae ei phlant yn tyfu ac yn ei bendithio;
a bydd ei gŵr yn ei chanmol:
“Y mae llawer o ferched wedi gweithio'n fedrus,
ond yr wyt ti'n rhagori arnynt i gyd.”
Y mae tegwch yn twyllo, a phrydferthwch yn darfod,
ond y wraig sy'n ofni'r ARGLWYDD, y mae hon i'w chanmol.
Rhowch iddi o ffrwyth ei dwylo,
a bydded i'w gwaith ei chanmol yn y pyrth.

Pwy a all ddod o hyd i wraig fedrus? Y mae hi'n fwy gwerthfawr na gemau. Y mae calon ei gŵr yn ymddiried ynddi, ac ni fydd pall ar ei henillion. Y mae'n gwneud daioni iddo yn hytrach na cholled, a hynny ar hyd ei hoes. Y mae'n ceisio gwlân a llin, ac yn cael pleser o weithio â'i dwylo. Y mae, fel llongau masnachwr, yn dwyn ei hymborth o bell. Y mae'n codi cyn iddi ddyddio, yn darparu bwyd i'w thylwyth, ac yn trefnu gorchwylion ei morynion. Ar ôl ystyried yn fanwl, y mae'n prynu maes, ac yn plannu gwinllan â'i henillion. Y mae'n gwregysu ei llwynau â nerth, ac yn dangos mor gryf yw ei breichiau. Y mae'n sicrhau bod ei busnes yn broffidiol, ac ni fydd ei lamp yn diffodd trwy'r nos. Y mae'n gosod ei llaw ar y cogail, a'i dwylo'n gafael yn y werthyd. Y mae'n estyn ei llaw i'r anghenus, a'i dwylo i'r tlawd. Nid yw'n pryderu am ei thylwyth pan ddaw eira, oherwydd byddant i gyd wedi eu dilladu'n glyd. Y mae'n gwneud cwrlidau iddi ei hun, ac y mae ei gwisg o liain main a phorffor. Y mae ei gŵr yn adnabyddus yn y pyrth, pan yw'n eistedd gyda henuriaid yr ardal. Y mae'n gwneud gwisgoedd o liain ac yn eu gwerthu, ac yn darparu gwregysau i'r masnachwr. Y mae wedi ei gwisgo â nerth ac anrhydedd, ac yn wynebu'r dyfodol dan chwerthin. Y mae'n siarad yn ddoeth, a cheir cyfarwyddyd caredig ar ei thafod. Y mae'n cadw golwg ar yr hyn sy'n digwydd i'w theulu, ac nid yw'n bwyta bara segurdod. Y mae ei phlant yn tyfu ac yn ei bendithio; a bydd ei gŵr yn ei chanmol: “Y mae llawer o ferched wedi gweithio'n fedrus, ond yr wyt ti'n rhagori arnynt i gyd.” Y mae tegwch yn twyllo, a phrydferthwch yn darfod, ond y wraig sy'n ofni'r ARGLWYDD, y mae hon i'w chanmol. Rhowch iddi o ffrwyth ei dwylo, a bydded i'w gwaith ei chanmol yn y pyrth.

Diarhebion 31:10-31