Proverbs 3:11-26

Fy mab, paid â diystyru disgyblaeth yr ARGLWYDD, a phaid â digio wrth ei gerydd; oherwydd ceryddu'r un a gâr y mae'r ARGLWYDD, fel tad sy'n hoff o'i blentyn. Gwyn ei fyd y sawl a gafodd ddoethineb, a'r un sy'n berchen deall. Y mae mwy o elw ynddi nag mewn arian, a'i chynnyrch yn well nag aur. Y mae'n fwy gwerthfawr na gemau, ac nid yw dim a ddymuni yn debyg iddi. Yn ei llaw dde y mae hir oes, a chyfoeth ac anrhydedd yn ei llaw chwith. Ffyrdd hyfryd yw ei ffyrdd, a heddwch sydd ar ei holl lwybrau. Y mae'n bren bywyd i'r neb a gydia ynddi, a dedwydd yw'r rhai sy'n glynu wrthi. Trwy ddoethineb y sylfaenodd yr ARGLWYDD y ddaear, ac â deall y sicrhaodd y nefoedd; trwy ei ddeall y ffrydiodd y dyfnderau, ac y defnynna'r cymylau wlith. Fy mab, dal d'afael ar graffter a phwyll; paid â'u gollwng o'th olwg; byddant yn iechyd i'th enaid, ac yn addurn am dy wddf. Yna cei gerdded ymlaen heb bryder, ac ni fagla dy droed. Pan eisteddi, ni fyddi'n ofni, a phan orweddi, bydd dy gwsg yn felys. Paid ag ofni rhag unrhyw ddychryn disymwth, na dinistr y drygionus pan ddaw; oherwydd bydd yr ARGLWYDD yn hyder iti, ac yn cadw dy droed rhag y fagl.
Diarhebion 3:11-26