Proverbs 22:6-25

Hyffordda blentyn ar ddechrau ei daith, ac ni thry oddi wrthi pan heneiddia. Y mae'r cyfoethog yn rheoli'r tlawd, ac y mae'r benthyciwr yn was i'r echwynnwr. Y mae'r un sy'n hau anghyfiawnder yn medi gofid, a bydd gwialen ei ymffrost yn methu. Bendithir yr un hael am ei fod yn rhannu ei fara i'r tlawd. Bwrw allan y gwatwarwr, a cheir terfyn ar ymryson, a diwedd ar ddadlau a gwawd. Yr un sy'n hoffi purdeb meddwl a geiriau grasol, y mae ef yn gyfaill i frenin. Y mae llygaid yr ARGLWYDD yn gwarchod deall, ond y mae ef yn dymchwel geiriau twyllwr. Dywed y diog, “Y mae llew y tu allan; fe'm lleddir yn y stryd.” Y mae genau'r wraig ddieithr fel pwll dwfn; y mae'r un a ddigiodd yr ARGLWYDD yn syrthio iddo. Y mae ffolineb ynghlwm wrth feddwl plentyn, ond y mae gwialen disgyblaeth yn ei yrru oddi wrtho. Y sawl sy'n gorthrymu'r tlawd i geisio elw iddo'i hun, ac yn rhoi i'r cyfoethog, bydd hwnnw'n diweddu mewn angen. Rho sylw, a gwrando ar eiriau'r doethion, a gosod dy feddwl ar fy neall; oherwydd y mae'n werth iti eu cadw yn dy galon, ac iddynt oll gael eu sicrhau ar dy wefusau. Er mwyn i ti roi dy hyder yn yr ARGLWYDD yr wyf yn eu dysgu iti heddiw—ie, i ti! Onid wyf wedi ysgrifennu iti ddeg ar hugain o ddywediadau, yn llawn cyngor a deall, i ddysgu iti wirionedd geiriau cywir, fel y gelli roi ateb cywir i'r rhai a'th anfonodd? Paid ag ysbeilio'r tlawd am ei fod yn dlawd, a phaid â sathru'r anghenus yn y porth; oherwydd bydd yr ARGLWYDD yn dadlau eu hachos, ac yn difetha'r rhai sy'n eu difetha hwy. Paid â chyfeillachu â neb a chanddo dymer ddrwg, nac aros yng nghwmni'r dicllon, rhag iti ddysgu ei ffordd, a'th gael dy hun mewn magl.
Diarhebion 22:6-25