Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Proverbs 21:1-31

Diarhebion 21:1-31 - Y mae calon brenin yn llaw'r ARGLWYDD fel ffrwd o ddŵr;
fe'i try i ble bynnag y dymuna.
Y mae ffyrdd pob un i gyd yn uniawn yn ei olwg ei hun,
ond y mae'r ARGLWYDD yn cloriannu'r galon.
Y mae gwneud cyfiawnder a barn
yn fwy derbyniol gan yr ARGLWYDD nag aberth.
Llygaid balch a chalon ymffrostgar,
dyma nodau'r drygionus, ac y maent yn bechod.
Y mae cynlluniau'r diwyd yn sicr o arwain i ddigonedd,
ond daw angen ar bob un sydd mewn brys.
Y mae trysorau wedi eu hennill trwy gelwydd
fel tarth yn diflannu neu fagl marwolaeth.
Rhwydir y rhai drygionus gan eu trais,
am iddynt wrthod gwneud yr hyn sydd uniawn.
Troellog yw ffordd y troseddwr,
ond uniawn yw gweithred y didwyll.
Gwell yw byw mewn congl ar ben tŷ
na rhannu cartref gyda gwraig gecrus.
Y mae'r drygionus yn awchu am wneud drwg;
nid yw'n edrych yn drugarog ar ei gymydog.
Pan gosbir gwatwarwr, daw'r gwirion yn ddoeth;
ond pan ddysgir gwers i'r doeth, daw ef ei hun i ddeall.
Y mae'r Un Cyfiawn yn sylwi ar dŷ'r drygionus;
y mae'n bwrw'r rhai drwg i ddinistr.
Os bydd rhywun yn fyddar i gri'r tlawd,
ni chaiff ei ateb pan fydd yntau'n galw.
Y mae rhodd ddirgel yn lliniaru dig, a childwrn dan glogyn yn tawelu llid mawr.
Caiff y cyfiawn lawenydd wrth wneud cyfiawnder,
ond daw dinistr ar y rhai sy'n gwneud drwg.
Bydd rhywun sy'n troi oddi ar ffordd deall
yn gorffwys yng nghwmni'r meirw.
Mewn angen y bydd y sawl sy'n caru pleser,
ac ni ddaw'r sawl sy'n hoffi gwin ac olew yn gyfoethog.
Y mae'r drygionus yn bridwerth dros y cyfiawn,
a'r twyllwr dros y rhai uniawn.
Gwell byw mewn anialwch
na chyda gwraig gecrus a dicllon.
Yn nhŷ'r doeth y mae trysor dymunol ac olew,
ond y mae'r ffôl yn eu difa.
Y mae'r sawl sy'n dilyn cyfiawnder a theyrngarwch
yn cael bywyd llwyddiannus ac anrhydedd.
Y mae'r doeth yn gallu mynd i ddinas gadarn
a bwrw i lawr y gaer yr ymddiriedir ynddi.
Y sawl sy'n gwylio ei enau a'i dafod,
fe'i ceidw ei hun rhag gofidiau.
Y mae'r balch yn ffroenuchel; gwatwarwr yw ei enw,
gweithreda yn gwbl drahaus.
Y mae blys y diog yn ei ladd,
am fod ei ddwylo'n gwrthod gweithio.
Trachwantu y mae'r annuwiol bob amser,
ond y mae'r cyfiawn yn rhoi heb arbed.
Ffiaidd yw aberth y drygionus,
yn enwedig pan offrymir ef mewn dichell.
Difethir y tyst celwyddog,
ond y mae'r tyst cywir yn cael llefaru.
Y mae'r drygionus yn caledu ei wyneb,
ond yr uniawn yn trefnu ei ffyrdd.
Nid yw doethineb na deall na chyngor
yn ddim o flaen yr ARGLWYDD.
Er paratoi march ar gyfer dydd brwydr,
eto eiddo'r ARGLWYDD yw'r fuddugoliaeth.

Y mae calon brenin yn llaw'r ARGLWYDD fel ffrwd o ddŵr; fe'i try i ble bynnag y dymuna. Y mae ffyrdd pob un i gyd yn uniawn yn ei olwg ei hun, ond y mae'r ARGLWYDD yn cloriannu'r galon. Y mae gwneud cyfiawnder a barn yn fwy derbyniol gan yr ARGLWYDD nag aberth. Llygaid balch a chalon ymffrostgar, dyma nodau'r drygionus, ac y maent yn bechod. Y mae cynlluniau'r diwyd yn sicr o arwain i ddigonedd, ond daw angen ar bob un sydd mewn brys. Y mae trysorau wedi eu hennill trwy gelwydd fel tarth yn diflannu neu fagl marwolaeth. Rhwydir y rhai drygionus gan eu trais, am iddynt wrthod gwneud yr hyn sydd uniawn. Troellog yw ffordd y troseddwr, ond uniawn yw gweithred y didwyll. Gwell yw byw mewn congl ar ben tŷ na rhannu cartref gyda gwraig gecrus. Y mae'r drygionus yn awchu am wneud drwg; nid yw'n edrych yn drugarog ar ei gymydog. Pan gosbir gwatwarwr, daw'r gwirion yn ddoeth; ond pan ddysgir gwers i'r doeth, daw ef ei hun i ddeall. Y mae'r Un Cyfiawn yn sylwi ar dŷ'r drygionus; y mae'n bwrw'r rhai drwg i ddinistr. Os bydd rhywun yn fyddar i gri'r tlawd, ni chaiff ei ateb pan fydd yntau'n galw. Y mae rhodd ddirgel yn lliniaru dig, a childwrn dan glogyn yn tawelu llid mawr. Caiff y cyfiawn lawenydd wrth wneud cyfiawnder, ond daw dinistr ar y rhai sy'n gwneud drwg. Bydd rhywun sy'n troi oddi ar ffordd deall yn gorffwys yng nghwmni'r meirw. Mewn angen y bydd y sawl sy'n caru pleser, ac ni ddaw'r sawl sy'n hoffi gwin ac olew yn gyfoethog. Y mae'r drygionus yn bridwerth dros y cyfiawn, a'r twyllwr dros y rhai uniawn. Gwell byw mewn anialwch na chyda gwraig gecrus a dicllon. Yn nhŷ'r doeth y mae trysor dymunol ac olew, ond y mae'r ffôl yn eu difa. Y mae'r sawl sy'n dilyn cyfiawnder a theyrngarwch yn cael bywyd llwyddiannus ac anrhydedd. Y mae'r doeth yn gallu mynd i ddinas gadarn a bwrw i lawr y gaer yr ymddiriedir ynddi. Y sawl sy'n gwylio ei enau a'i dafod, fe'i ceidw ei hun rhag gofidiau. Y mae'r balch yn ffroenuchel; gwatwarwr yw ei enw, gweithreda yn gwbl drahaus. Y mae blys y diog yn ei ladd, am fod ei ddwylo'n gwrthod gweithio. Trachwantu y mae'r annuwiol bob amser, ond y mae'r cyfiawn yn rhoi heb arbed. Ffiaidd yw aberth y drygionus, yn enwedig pan offrymir ef mewn dichell. Difethir y tyst celwyddog, ond y mae'r tyst cywir yn cael llefaru. Y mae'r drygionus yn caledu ei wyneb, ond yr uniawn yn trefnu ei ffyrdd. Nid yw doethineb na deall na chyngor yn ddim o flaen yr ARGLWYDD. Er paratoi march ar gyfer dydd brwydr, eto eiddo'r ARGLWYDD yw'r fuddugoliaeth.

Diarhebion 21:1-31