Proverbs 15:1-7

Y mae ateb llednais yn dofi dig, ond gair garw yn cynnau llid. Y mae tafod y doeth yn clodfori deall, ond genau ffyliaid yn parablu ffolineb. Y mae llygaid yr ARGLWYDD ym mhob man, yn gwylio'r drwg a'r da. Y mae tafod tyner yn bren bywiol, ond tafod garw yn dryllio'r ysbryd. Diystyra'r ffôl ddisgyblaeth ei dad, ond deallus yw'r un a rydd sylw i gerydd. Y mae llawer o gyfoeth yn nhŷ'r cyfiawn, ond trallod sydd yn enillion y drygionus. Gwasgaru gwybodaeth y mae genau'r doeth, ond nid felly feddwl y ffyliaid.
Diarhebion 15:1-7