Proverbs 1:7-15

Ofn yr ARGLWYDD yw dechrau gwybodaeth, ond y mae ffyliaid yn diystyru doethineb a disgyblaeth. Fy mab, gwrando ar addysg dy dad, paid â gwrthod cyfarwyddyd dy fam; bydd yn dorch brydferth ar dy ben, ac yn gadwyn am dy wddf. Fy mab, os hudir di gan bechaduriaid, paid â chytuno â hwy. Fe ddywedant, “Tyrd gyda ni, inni gynllwynio i dywallt gwaed, a llechu'n ddiachos yn erbyn y diniwed; fel Sheol, llyncwn hwy'n fyw ac yn gyfan, fel rhai'n disgyn i'r pwll; fe gymerwn bob math ar gyfoeth, a llenwi ein tai ag ysbail; bwrw dy goelbren gyda ni, a bydd un pwrs rhyngom i gyd.” Fy mab, paid â mynd yr un ffordd â hwy; cadw dy droed oddi ar eu llwybr.
Diarhebion 1:7-15