Micah 5:2-5

Ond ti, Bethlehem Effrata, sy'n fechan i fod ymhlith llwythau Jwda, ohonot ti y daw allan i mi un i fod yn llywodraethwr yn Israel, a'i darddiad yn y gorffennol, mewn dyddiau gynt. Felly fe'u gedy hyd amser esgor yr un feichiog, ac yna fe ddychwel y rhai fydd yn weddill yn Israel at eu tylwyth. Fe saif ac arwain y praidd yn nerth yr ARGLWYDD, ac ym mawredd enw'r ARGLWYDD ei Dduw. A byddant yn ddiogel, oherwydd bydd ef yn fawr hyd derfynau'r ddaear; ac yna bydd heddwch.
Micha 5:2-5