Matthew 6:7-15

Ac wrth weddïo, peidiwch â phentyrru geiriau fel y mae'r Cenhedloedd yn gwneud; y maent hwy'n tybied y cânt eu gwrando am eu haml eiriau. Peidiwch felly â bod yn debyg iddynt hwy, oherwydd y mae eich Tad yn gwybod cyn i chwi ofyn iddo beth yw eich anghenion. Felly, gweddïwch chwi fel hyn: “ ‘Ein Tad yn y nefoedd, sancteiddier dy enw; deled dy deyrnas; gwneler dy ewyllys, ar y ddaear fel yn y nef. Dyro inni heddiw ein bara beunyddiol; a maddau inni ein troseddau, fel yr ŷm ni wedi maddau i'r rhai a droseddodd yn ein herbyn; a phaid â'n dwyn i brawf, ond gwared ni rhag yr Un drwg.’ “Oherwydd os maddeuwch i eraill eu camweddau, bydd eich Tad nefol hefyd yn maddau i chwi. Ond os na faddeuwch i eraill eu camweddau, ni fydd eich Tad chwaith yn maddau eich camweddau chwi.
Mathew 6:7-15