Matthew 21:12-13

Aeth Iesu i mewn i'r deml, a bwriodd allan bawb oedd yn prynu ac yn gwerthu yn y deml; taflodd i lawr fyrddau'r cyfnewidwyr arian a chadeiriau'r rhai oedd yn gwerthu colomennod, a dywedodd wrthynt, “Y mae'n ysgrifenedig: “ ‘Gelwir fy nhŷ i yn dŷ gweddi, ond yr ydych chwi yn ei wneud yn ogof lladron.’ ”
Mathew 21:12-13