Lukas 6:27-32

“Ond wrthych chwi sy'n gwrando rwy'n dweud: carwch eich gelynion, gwnewch ddaioni i'r rhai sy'n eich casáu, bendithiwch y rhai sy'n eich melltithio, gweddïwch dros y rhai sy'n eich cam-drin. Pan fydd rhywun yn dy daro di ar dy foch, cynigia'r llall iddo hefyd; pan fydd un yn cymryd dy fantell, paid â'i rwystro rhag cymryd dy grys hefyd. Rho i bawb sy'n gofyn gennyt, ac os bydd rhywun yn cymryd dy eiddo, paid â gofyn amdano'n ôl. Fel y dymunwch i eraill wneud i chwi, gwnewch chwithau yr un fath iddynt hwy. Os ydych yn caru'r rhai sy'n eich caru chwi, pa ddiolch fydd i chwi? Y mae hyd yn oed y pechaduriaid yn caru'r rhai sy'n eu caru hwy.
Luc 6:27-32