Luc 2:20-32

Dychwelodd y bugeiliaid gan ogoneddu a moli Duw am yr holl bethau a glywsant ac a welsant, yn union fel y llefarwyd wrthynt. Pan ddaeth yr amser i enwaedu arno ymhen wyth diwrnod, galwyd ef Iesu, yr enw a roddwyd iddo gan yr angel cyn i'w fam feichiogi arno. Pan ddaeth amser eu puredigaeth yn ôl Cyfraith Moses, cymerodd ei rieni ef i fyny i Jerwsalem i'w gyflwyno i'r Arglwydd, yn unol â'r hyn sydd wedi ei ysgrifennu yng Nghyfraith yr Arglwydd: “Pob gwryw cyntafanedig, fe'i gelwir yn sanctaidd i'r Arglwydd”; ac i roi offrwm yn unol â'r hyn sydd wedi ei ddweud yng Nghyfraith yr Arglwydd: “Pâr o durturod neu ddau gyw colomen.” Yn awr yr oedd dyn yn Jerwsalem o'r enw Simeon; dyn cyfiawn a duwiol oedd hwn, yn disgwyl am ddiddanwch Israel; ac yr oedd yr Ysbryd Glân arno. Yr oedd wedi cael datguddiad gan yr Ysbryd Glân na welai farwolaeth cyn gweld Meseia'r Arglwydd. Daeth i'r deml dan arweiniad yr Ysbryd; a phan ddaeth y rhieni â'r plentyn Iesu i mewn, i wneud ynglŷn ag ef yn unol ag arfer y Gyfraith, cymerodd Simeon ef i'w freichiau a bendithiodd Dduw gan ddweud: “Yn awr yr wyt yn gollwng dy was yn rhydd, O Arglwydd, mewn tangnefedd yn unol â'th air; oherwydd y mae fy llygaid wedi gweld dy iachawdwriaeth, a ddarperaist yng ngŵydd yr holl bobloedd: goleuni i fod yn ddatguddiad i'r Cenhedloedd ac yn ogoniant i'th bobl Israel.”
Luc 2:20-32