Lamentations 3:22-33

Nid oes terfyn ar gariad yr ARGLWYDD, ac yn sicr ni phalla ei dosturiaethau. Y maent yn newydd bob bore, a mawr yw dy ffyddlondeb. Dywedais, “Yr ARGLWYDD yw fy rhan, am hynny disgwyliaf wrtho.” Da yw'r ARGLWYDD i'r rhai sy'n gobeithio ynddo, i'r rhai sy'n ei geisio. Y mae'n dda disgwyl yn dawel am iachawdwriaeth yr ARGLWYDD. Da yw bod un yn cymryd yr iau arno yng nghyfnod ei ieuenctid. Boed iddo eistedd ar ei ben ei hun, a bod yn dawel pan roddir hi arno; boed iddo osod ei enau yn y llwch; hwyrach fod gobaith iddo. Boed iddo droi ei rudd i'r un sy'n ei daro, a bod yn fodlon i dderbyn dirmyg. Oherwydd nid yw'r Arglwydd yn gwrthod am byth; er iddo gystuddio, bydd yn trugarhau yn ôl ei dosturi mawr, gan nad o'i fodd y mae'n dwyn gofid ac yn cystuddio pobl.
Galarnad 3:22-33