Y"oel 2:12-17

“Yn awr,” medd yr ARGLWYDD, “dychwelwch ataf â'ch holl galon, ag ympryd, wylofain a galar. Rhwygwch eich calon, nid eich dillad, a dychwelwch at yr ARGLWYDD eich Duw.” Graslon a thrugarog yw ef, araf i ddigio, a mawr ei ffyddlondeb, ac yn edifar ganddo wneud niwed. Pwy a ŵyr na thry a thosturio, a gadael bendith ar ei ôl— bwydoffrwm a diodoffrwm i'r ARGLWYDD eich Duw? Canwch utgorn yn Seion, cyhoeddwch ympryd, galwch gymanfa, cynullwch y bobl. Neilltuwch y gynulleidfa, cynullwch yr henuriaid, casglwch y plant, hyd yn oed y babanod. Doed y priodfab o'i ystafell a'r briodferch o'i siambr. Rhwng y porth a'r allor wyled yr offeiriaid, gweinidogion yr ARGLWYDD, a dweud, “Arbed dy bobl, O ARGLWYDD. Paid â gwneud dy etifeddiaeth yn warth ac yn gyff gwawd ymysg y cenhedloedd. Pam y dywedir ymysg y bobloedd, ‘Ple mae eu Duw?’ ”
Joel 2:12-17