Oherwydd gwn fod fy amddiffynnwr yn fyw,
ac y saif o'm plaid yn y diwedd;
ac wedi i'm croen ddifa fel hyn,
eto o'm cnawd caf weld Duw.
Fe'i gwelaf ef o'm plaid;
ie, fy llygaid fy hun a'i gwêl, ac nid yw'n ddieithr.
Y mae fy nghalon yn dyheu o'm mewn.