Vangelo secondo Giovanni 8:32-36

Cewch wybod y gwirionedd, a bydd y gwirionedd yn eich rhyddhau.” Atebasant ef, “Plant Abraham ydym ni, ac ni buom erioed yn gaethweision i neb. Sut y gelli di ddweud, ‘Fe'ch gwneir yn rhyddion’?” Atebodd Iesu hwy, “Yn wir, yn wir, rwy'n dweud wrthych fod pob un sy'n cyflawni pechod yn gaethwas i bechod. Ac nid oes gan y caethwas le arhosol yn y tŷ, ond y mae'r mab yn aros am byth. Felly os yw'r Mab yn eich rhyddhau chwi, byddwch yn rhydd mewn gwirionedd.
Ioan 8:32-36