John 15:12-15

Dyma fy ngorchymyn i: carwch eich gilydd fel y cerais i chwi. Nid oes gan neb gariad mwy na hyn, sef bod rhywun yn rhoi ei einioes dros ei gyfeillion. Yr ydych chwi'n gyfeillion i mi os gwnewch yr hyn yr wyf fi'n ei orchymyn ichwi. Nid wyf mwyach yn eich galw yn weision, oherwydd nid yw'r gwas yn gwybod beth y mae ei feistr yn ei wneud. Yr wyf wedi eich galw yn gyfeillion, oherwydd yr wyf wedi gwneud yn hysbys i chwi bob peth a glywais gan fy Nhad.
Ioan 15:12-15