Jeremiah 17:7-10

Bendigedig yw'r sawl sy'n hyderu yn yr ARGLWYDD, a'r ARGLWYDD yn hyder iddo. Y mae fel pren a blannwyd ar lan dyfroedd, yn gwthio'i wreiddiau i'r afon, heb ofni gwres pan ddaw, a'i ddail yn ir; ar dymor sych ni phrydera, ac ni phaid â ffrwytho. “Y mae'r galon yn fwy ei thwyll na dim, a thu hwnt i iachâd; pwy sy'n ei deall hi? Ond yr wyf fi, yr ARGLWYDD, yn chwilio'r galon ac yn profi cymhellion, i roi i bawb yn ôl eu ffyrdd ac yn ôl ffrwyth eu gweithredoedd.”
Jeremeia 17:7-10